Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 19 Hydref 2022

Amser y cyfarfod: 13.30
 


97(v4)  

------

<AI1>

Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

2       Cwestiynau i Weinidog yr Economi

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI3>

<AI4>

Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro

(5 munud)

NNDM8111 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal dros dro Reol Sefydlog 12.20(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM8110 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 19 Hydref.

</AI4>

<AI5>

3       Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Prisiau Ynni

(45 munud)

NNDM8110 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod y Senedd:

Yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Prisiau Ynni, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Hydref 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

</AI5>

<AI6>

4       Cwestiynau Amserol

(0 munud)

Ni chafwyd unrhyw Gwestiynau Amserol

</AI6>

<AI7>

5       Datganiadau 90 Eiliad

(5 munud)

</AI7>

<AI8>

6       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Ynni adnewyddadwy yng Nghymru

(60 munud)

NDM8102 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: ‘Ynni adnewyddadwy yng Nghymru', a osodwyd ar 26 Mai 2022.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Gorffennaf 2022.

</AI8>

<AI9>

7       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus - Comisiynu Cartrefi Gofal

(60 munud)

NDM8104 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar ei ymchwiliad: Comisiynu Cartrefi Gofal, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Medi 2022.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Hydref 2022.

</AI9>

<AI10>

8       Dadl ar ddeiseb P-06-1294 - Peidiwch â gadael cleifion â chanser y fron metastatig yng Nghymru y tu ôl

(30 munud)

NDM8103 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1294 Peidiwch â gadael cleifion â chanser y fron metastatig yng Nghymru y tu ôl’ a gasglodd 14,106 o lofnodion.

</AI10>

<AI11>

9       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ardrethi busnes

(60 munud)

NDM8105 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu at y ffaith bod gan Gymru'r ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain Fawr.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar unwaith i leihau trethi annomestig i gefnogi busnesau a diogelu swyddi.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1.  Yn nodi’r gwahanol gyfraddau ardrethi annomestig sy’n bodoli yng Nghymru, gyda chyfran uwch o fusnesau bach a chanolig.

2.  Yn croesawu:

a)  y rhyddhad ardrethi annomestig y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i drethdalwyr bob blwyddyn, sy’n golygu nad yw 44 y cant yn talu unrhyw filiau.

b)  y cymorth ychwanegol gwerth £116 miliwn ar gyfer busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch eleni er mwyn eu helpu i adfer ar ôl y pandemig, gan ddarparu rhyddhad o hyd at 50 y cant ar eu biliau ardrethi annomestig.

c)   y ffaith bod, o ganlyniad i’r rhyddhad yma, 70 y cant o eiddo annomestig yng Nghymru yn derbyn cymorth â’u biliau ardrethi annomestig yn 2022-23.

Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegwch pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: 

Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i ddisodli'r system bresennol o ardrethi annomestig gyda chynigion ar gyfer un dreth dir ac eiddo newydd sy'n cwmpasu tir preswyl, tir masnachol, a thir diwydiannol (gyda thir amaethyddol yn parhau i gael ei eithrio).

</AI11>

<AI12>

10    Cyfnod Pleidleisio

 

</AI12>

<AI13>

11    Dadl Fer

(30 munud)

NDM8095 Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru)

Byw gyda chanser yng Nghymru: gwella mynediad at wasanaethau rhagsefydlu ac adsefydlu

</AI13>

 

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 25 Hydref 2022

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>